Ein parch olaf i Barry

02-03-24

Heddiw roeddem yn dangos ein parch olaf i Barry yn ei gnebrwn.

Today we paid our final respects to Barry at his funeral.

Anrhydedd mawr o’r mwyaf oedd cael darparu teyrnged i Barry heddiw er cof amdano sydd wedi ei osod isod.

It was an honour to provide an eulogy for Barry today in remembrance which is shown below.


Teyrnged i’m ffrind Barry



Llun o Barry wrth iddo gefnogi gyda CRG163.

Er cof amdanat










~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~



Teyrnged byr i Barry o glywed y newydd trist (14-02-24)

Gyda thristwch llwyr cawsom wybod heddiw (14 Chwefror 2024) fod y byd wedi colli un o’i oreuon gyda marwolaeth sydyn Barry Thomas o Rosgadfan (cwmni Seren Arian gynt).

Bu Barry yn beiriannydd i gwmni Seren Arian yn bennaf am flynyddoedd lawer yn ogystal â gyrru bysus a choets y cwmni ar hyd a lled y wlad a thramor. Cyhyd ac Eric Thomas a fu farw yn 2009, roedd y ddau yn hoelion wyth y cwmni.

I’r rhai nad oedd mor ffodus i adnabod Barry, roedd o’n hynod o weithgar gyda gwen pob amser ar ei wyneb. Roedd o wrth ei fodd yn tynnu coes a doedd dim byd yn ormod iddo yn ei gymwynas, pob amser ar gael i helpu unrhyw un oedd angen help.

Roedd gan Barry y ddawn o gyffwrdd yn arbennig gyda phobl ar draws unrhyw genhedlaeth, o’r ifanc i’r hyn yn yr un ffordd gyda pharch a gwen.

Nodaf cyhyd a nifer fawr eraill wrth ddweud ei bod hi’n fraint o’r mwyaf cael adnabod Barry fel ffrind am flynyddoedd lawer, ers i mi fod yn blentyn i fod yn fanwl.

Ers i mi fod yn berchen ar CRG163 ers 2002, roedd Barry wedi helpu llawer tro i gefnogi'r gwaith parhaus o adfer a chadw'r cerbyd.

Yn anffodus daeth cwmni’r Seren Arian i ben ond yn fwy diweddar roedd Barry yn dreifio i gerbydau Caelloi ym Mhwllheli ar sawl bysus ysgol yr ardal. Unwaith eto roedd gwen mawr ar wyneb Barry pob tro wrth iddo godi llaw a chanu corn ar yr hogiau wrth iddo basio.

Ar ran yr ardal, y diwydiant bysiau a choets leol i Ogledd Cymru a ledled y DU, rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf oll i deulu a ffrindiau Barry yn eu colled drist iawn wrth i ni gofio am un o’r gorau.

Bydd colled mawr iawn ar dy ôl a diolch yn fawr iawn am bob dim dros nifer fawr o flynyddoedd - Rich. (Richard Lloyd Jones a’r teulu).

Mae’r dudalen hon nawr yn dudalen cyntaf/blaen newydd gwefan CRG163 er cof a pharch am ein ffrind annwyl Barry a’u deulu.

Mae'r lliwiau CENEDLAETHOL (Cwmni Bysiau Cenedlaethol) a ddefnyddir fel arfer ar draws y wefan hon wedi'u disodli dros dro er mwyn parch at Barry.

Er cof am Barry, a fu farw ar 13 Chwefror, 2024.


~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~


The World has lost one of its finest

It is with complete sadness we were informed today (14 February 2024) that the world has lost one of its best with the sudden passing of Barry Thomas from Rosgadfan (formerly of the Silver Star company).

Barry was mainly an engineer for the Silver Star company for many years as well as driving the company's buses and coaches all over the country and abroad. Along with Eric Thomas who died in 2009, both were stalwarts of the company.

For those who were not so fortunate to know Barry, he did not shy away to any work and with a smile always on his face. He loved to tease and nothing was too much for him in his support of others, always available to help anyone who needed help.

Barry had the gift of touching people across many generations, from the young to the older generation through his respect and smile.

I will confirm what many, many others will confirmand that is to say that it has been an absolute privilege to have known Barry as a friend for many years, since I was a child to be precise.

Since owning CRG163 since 2002, Barry has helped many times to support the ongoing restoration and preservation of the vehicle.

Unfortunately the Silver Star company came to an end but more recently Barry would be seen driving for Caelloi Coaches of Pwllheli on many of its school buses in the area. Once again there was a big smile on Barry's face every time as he raised his hand and honked his horn at my boys as he passed.

On behalf of the area, the local bus and coach industry for North Wales and throughout the UK, we send our deepest condolences to Barry's family and friends in their very sad loss as we remember one of the best.

You will be greatly missed and thank you very much for everything over many years - Rich. (Richard Lloyd Jones & Family).


A photograph of Barry on the way to France on a Silver Star coach trip.

This is now a new first page on CRG163’s website in memory and out of respect for our dear friend Barry and family.

The NATIONAL (National Bus Company) colours normally used across this website have been temporarily replaced out of respect for Barry.



In Memory of Barry, who sadly passed away on 13 February, 2024.